Ar ôl blynyddoedd o danariannu o San Steffan, mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu’r diffyg ariannol mwyaf mewn cenhedlaeth.

Ers blynyddoedd, mae San Steffan wedi methu ag ymrwymo cyllid digonol i ysgolion ledled y DU. Mae ariannu ysgolion yng Nghymru wedi gostwng 5% ers 2010.

Mae rhai ysgolion dim ond yn dechrau teimlo effaith toriadau i ariannu, tra bod eraill wedi bod yn cael trafferth ers blynyddoedd.  O ganlyniad:

  • mae 942 o ysgolion ledled Cymru wedi dioddef toriadau i ariannu y pen ers 2015.
  • Mae ysgolion Cymru wedi colli allan ar £58.9m ers 2015.

Os nad yw Llywodraeth y DU yn ymrwymo digon o arian ar gyfer addysg, mae’r toriadau yn mynd i waethygu. Bydd hyd yn oed mwy o ysgolion ar draws y wlad mewn perygl.

Mae llai o arian yn golygu llai o staff ac adnoddau. Llai o gefnogaeth a llai o sylw unigol i bob plentyn. Lleihad yn y gefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Toriadau ar y cwricwlwm fel y celfyddydau, chwaraeon a cherddoriaeth.

Mae penaethiaid, athrawon a staff ysgol yn gwneud popeth yn eu gallu i leddfu’r effaith ar blant, ond nid yw hyn yn gynaliadwy.

Ac mae’n mynd i waethygu.

Os bydd toriadau i ysgolion yn parhau ar y gyfradd hon, bydd mwy o ysgolion mewn perygl o bwysau ariannol, sy’n bygwth effeithio ar addysg i blant yng Nghymru.

Mae angen digon o adnoddau ar Lywodraeth Cymru i gefnogi pob ysgol i lwyddo. Mae angen arian digonol yn y pot o San Steffan i ariannu ysgolion yng Nghymru yn iawn..

Ni ddylem fodloni ar lenwi’r bylchau pan mae dyfodol plant yn y fantol.

Rhaid i’r Canghellor, Philip Hammond, wrthdroi toriadau i ysgolion.

Dyma dri pheth y gallwch eu gwneud nawr i helpu:

  1. Defnyddiwch toriadauiysgolion.cymru i ddarganfod effaith toriadau ar eich ysgol.
  2. Dywedwch wrth bob rhiant yr ydych yn eu hadnabod am yr hyn sy’n digwydd i ariannu ysgolion yng Nghymru.
  3. Llofnodwch ein deiseb yn mynnu bod y Canghellor yn gwrthdroi toriadau i ysgolion ar draws y DU ac yng Nghymru.

Hyd nes y bydd Philip Hammond yn cytuno bod addysg yn rhy bwysig i gyfaddawdu arni, mater i bob un ohonom yw cadw toriadau i ysgolion fel blaenoriaeth a chanolbwynt – ar bob bwrdd cinio, ym mhob cyfarfod CRhA, mewn swyddfeydd gwleidyddion ar hyd a lled y wlad.

 

Dysgwch fwy am ein methodoleg.