Trosolwg
Mae’r wefan hon yn dangos y toriadau cyllidebol y mae ysgolion gwladol yng Nghymru wedi eu hwynebu dros y tair blynedd diwethaf. Bydd y dudalen hon yn dweud popeth y mae angen i chi ei wybod am sut rydym yn cyfrifo ein ffigurau.
Os hoffech chi wirio ffeithiau neu atgynhyrchu ein rhifau, ewch ymlaen i’n methodoleg hirach, wedi’i hanodi gyda’n fformiwlâu a ffynhonnell ein setiau data.
Beth yw ystyr y rhifau ar y wefan?
Mae’r ffigurau ar y wefan hon yn dangos y gwahaniaeth rhwng faint o arian y mae ysgolion yn ei dderbyn fesul disgybl ar hyn o bryd o’i gymharu â’r hyn yr oeddent yn ei dderbyn yn 2015/16.
Sut mae’r ffigurau’n cael eu cyfrifo?
Rydym yn cymryd y data cyhoeddus ar gyllid a niferoedd disgyblion o StatsCymru i gyfrifo ariannu fesul disgybl ar gyfer 2015/6, 2016/7, 2017/8, a 2018/9.
Gwnaethom drosi’r ffigurau hyn i’w defnyddio mewn termau real – sy’n golygu eu bod yn cael eu haddasu i ystyried costau ysgolion dros y cyfnod tair blynedd hwn. Yna gwnaethom gyfrifo’r newid yn yr ariannu fesul disgybl gan ddefnyddio 2015/16 fel gwaelodlin.
Er mwyn cyfrifo’r diffyg mewn incwm ysgol, canfuom y swm angenrheidiol i adfer y cyllid fesul disgybl mewn termau real i’w lefel yn 2015/16.
Diffyg cyllid 2018/19 = (Cyllid fesul disgybl 2015/16 – Cyllid fesul disgybl 2018/19) x Niferoedd disgyblion 2018/19
Yn syml, mae chwyddiant yn golygu’r cynnydd mewn prisiau bob dydd o flwyddyn i flwyddyn, ac nid yw cyllid ysgolion wedi cadw i fyny â phrisiau cynyddol.
Pam rydym yn defnyddio 2015/16 fel gwaelodlin ar gyfer cymharu?
Rydym yn defnyddio ffigurau 2015/16 i gymharu oherwydd mae hyn yn unol â gwaelodlin Trysorlys EM. Addawodd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn 2015 y bydd “cyllid ysgolion yn cael ei ddiogelu yn unol â chwyddiant” o’r flwyddyn honno.
Ble rydyn ni’n cael ein data?
Rydym yn defnyddio data’r Llywodraeth ei hun fel sail i’n holl gyfrifiadau.
Yn benodol, rydym wedi ystyried y setiau data hyn:
- Cyllideb ysgolion unigol
- Nifer y disgyblion
Rydym hefyd yn defnyddio data’r Llywodraeth ar Gostau Ysgolion i weld faint mae prisiau wedi cynyddu rhwng 2015-16 a 2018-19
Pa ddata sydd ddim wedi’i gynnwys?
Gwnaethom ddefnyddio data lefel ysgol a oedd ar gael i’r cyhoedd i wneud y cyfrifiadau ar gyfer ysgolion. Mantais hyn yw ei fod yn rhoi sicrwydd ar gywirdeb, ond mae’n arwain at eithrio rhywfaint o gyllid.
- Cyllid Anghenion Uchel – Oherwydd y nifer cymharol fach o ddisgyblion ac o bosib dyraniad unigol uchel, mae’n anodd gweld tueddiadau mewn ariannu fesul ysgol, mae cyfartaleddau awdurdodau lleol yn fwy priodol.
- Dyraniadau 16 i 19 – Nid oedd y dyraniadau hyn ar gael ar lefel ysgol.
- Grant Datblygu Disgyblion – Nid yw’r dyraniadau fesul ysgol ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion yn cynnwys cyfeirnod ysgol ac felly nid oedd yn bosibl cyfateb y symiau â’r data ariannu arall.
- Cyllid Blynyddoedd Cynnar – Ni ddarperir y dyraniadau hyn ar lefel ysgol..
Ble y gellir dod o hyd i’n cyfrifiadau?
Mae ein holl ffigurau cyfrifedig ar gael i’r cyhoedd yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ein methodoleg ar gael yma.